G20:
Eglwysi yn gwrthod yr hen drefn
Mae ffigyrau blaenllaw o dair ar ddeg o eglwysi Prydain wedi
dweud wrth Gordon Brown ac arweinyddion gwledydd y G20 bod
yn rhaid ail-feddwl ynglŷn â strwythurau economaidd byd-eang
wrth i’r G20 gyfarfod i drafod eu hymateb i’r argyfwng
economaidd byd-eang yn Llundain yr wythnos hon.
Mae’r
arweinyddion eglwysig, yn cynnwys y Parchedig Ifan Roberts,
Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wedi
arwyddo datganiad a anfonwyd i’r Prif Weinidog, Gordon
Brown.
Dywedodd y Parchedig Roberts: “Rydym ni fel eglwysi wedi
cael cyfle i adlewyrchu, yn ddiwinyddol ac yn ymarferol, ar
achosion a sgîl-effeithiau yr argyfwng economaidd byd-eang
dros y misoedd diwethaf, ac rydym yn teimlo bod gennym
gyfraniad pwysig i’w wneud i’r ddadl.
“Mae ein datganiad wedi ei seilio ar y syniad bod cwymp y
marchnadoedd dros y misoedd diwethaf wedi ei achosi gan
fethiant moesol. O ganlyniad, mae’r argyfwng yn galw am
ymateb moesol. Rydym yn gwrthod unrhyw ateb sydd wedi ei
seilio ar yr hen egwyddorion, gan y byddai hynny yn golygu
dychwelyd at arferion economaidd a busnes anfoesol.
"Yn
hytrach, rydym yn cynnig set o egwyddorion craidd a fydd yn
gymorth i ailadeiladu cysylltiadau economaidd mewn byd sy’n
cael ei ysgogi fwyfwy gan drachwant, anghydraddoldeb,
camddefnyddio adnoddau ac anghyfiawnder. Ymysg yr
egwyddorion yma y mae cynaliadwyaeth, atebolrwydd,
cydgefnogaeth a chyfiawnder cymdeithasol – egwyddorion sy’n
adlewyrchu ein diddordeb yn lles cyffredin y ddynol ryw.
“Mae arweinyddion byd wedi ymroi i wella bywydau tlodion y
byd. Am resymau sy’n ymwneud â chyfiawnder a hawliau dynol
sylfaenol y mae’n hollbwysig nad ydym yn anghofio am y
gwledydd sy’n datblygu ar yr union adeg pan y maent yn
wynebu trafferthion economaidd dyrys a achoswyd gan
ymddygiad anfoesol unigolion mewn gwledydd Gorllewinol.
“Rydym ni, Eglwys Bresbtyeraidd Cymru, yn gweddïo am
lwyddiant y trafodaethau yr wythnos hon. Rydym yn falch o
ymuno ag eraill o Brydain ac Iwerddon gan ddweud bod, ar
sail ffydd, ffordd amgenach o ailstrwythuro economi’r byd.”