Mae Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi galw am well
dealltwriaeth rhwng eglwysi a chymdeithas yng ngwyneb y
trafferthion economaidd a’r bygythiad terfysgol.
Yn ei neges Basg, mae’r Parchedig Haydn Thomas yn dweud
bod y Pasg yn gyfle i Gristnogion godi ymwybyddiaeth o’r
ffydd, er na fydd pawb yn barod i wrando ar y neges.
Mae’n galw am fwy o gydymdeimlad tuag at waith eglwysi,
yn ogystal â rhoi her bersonol i gyn-aelodau ddychwelyd
i’r eglwysi.
“Rhaid
i ni aelodau Eglwys lesu Grist fod yn sicr o'n ffydd a'n
cred fel y gallwn argyhoeddi'r bobl o’n cwmpas,” meddai.
“Mae'n sicr y cawn ein hanwybyddu gan lawer ond nid yw
hynny yn esgus i ni beidio a rhannu'n cred ag eraill.
Credaf fod yna filoedd sy'n chwilio am waredigaeth,
tawelwch meddwl a heddwch. Mae hyn yn arbennig o wir yn
ystod y cyfnod economaidd anodd hwn, sydd wedi achosi
caletwch i deuluoedd lawer ac sydd wedi ein harwain i
gwestiynu moesoldeb y farchnad a’r system economaidd
bresennol.
“Ond
rwy’n galw hefyd ar gymdeithas i gydnabod eglwysi, a
pharchu lle a gwaith Eglwys lesu Grist. Mae cymunedau
ffydd yn cyfrannu gwerth dros £100m o waith gwirfoddol i
economi Cymru bob blwyddyn, heb sôn am gynnig porthiant
ysbrydol a chymuned i ddegau o filoedd o bobl. Gobeithio
y gall pawb weld bod eglwysi o bob math yn cynnig
rhywbeth gwerthfawr i Gymru heddiw. Ac yng ngwyneb y
bygythiadau a ddaw o gyfeiriad eithafwyr crefyddol,
galwaf am oddefgarwch crefyddol a pharch i gredoau ein
gilydd. Rhaid parchu cyd-ddyn pa beth bynnag yw ei dras,
ei iaith, ei draddodiad a'i grefydd.
“Ond
beth am y rheiny sydd wedi troi cefn ar yr eglwys? Mae
miloedd o bobl wedi eu magu mewn capel neu eglwys ond
wedi troi cefn am wahanol resymau. Hoffwn estyn
gwahoddiad a her bersonol i’r bobl yma: dewch yn ôl.
Mae’r Eglwys eisiau eich dawn, eich talent a'ch
gweledigaeth. Os ydych yn feirniadol o'r Eglwys a'i
gwaith, dewch yn ôl a rhannwch eich gweledigaeth chi ar
sut i wneud ein cenhadaeth yn fwy effeithiol.
“Felly
dyma fy neges i Eglwys lesu Grist: byddwch yn ymwybodol
o'r Pasg a'i neges a'i ystyr. Mae'r Ŵyl yn fwy na chael
ychydig o ddyddiau yn rhydd: mae'n gyfle i ni sefyll
dros yr hyn rydym yn ei gredu a'i gyhoeddi o'r newydd
gyda'r argyhoeddiad y mae'n ei haeddu. Ac mae’n gyfle i
ni weithio eto i ennill parch cymdeithas ac i adennill y
rhai sydd wedi troi cefn ar yr Eglwys. Mae'n amlwg fod
yna syched yn y byd am gariad, cyfiawnder a heddwch.
Peidiwn â'i siomi.”