
Mae The Treasury, cylchgrawn
Saesneg misol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wedi cael
gwedd newydd a gwefan newydd, diolch i'w dîm newydd
o olygyddion.
 |
| Parch Iain Hodgins |
Mae'r Parchedig Iain Hodgins a Miss
Eleanor Jenkins o Benrhyn Gŵyr, ynghyd â'r Parchedig
Jonathan Hodgins o'r Fenni, wedi eu penodi yn
olygyddion wedi i'r Parchedig David Jenkins o
Aberhonddu ymddeol o'r gadair wedi sawl blwyddyn o
wasanaeth ffyddlon a diflino. Mae ganddynt amryw o
syniadau ynglŷn â sut i fywiogi'r cylchgrawn.
“Dyma gyfle i uno a bywiogi aelodau
ein Cyfundeb, ac i'w gwneud yn falch o fod yn rhan o
rywbeth mwy na nhw eu hunain," meddai'r Parchedig
Jonathan Hodgins.
“Rydym ni eisiau i'n haelodau
ddarllen y Treasury yn awchus. Rydym eisiau iddyn
nhw ei agor a chael eu calonogi gan y gwaith sy'n
digwydd yn eglwysi EBC o amgylch y wlad. Rydym ni
eisiau cyflwyno llyfrau ac adnoddau newydd fydd yn
eu helpu ar eu taith ac yn eu gwaith. Rydym ni
eisiau eu cyflwyno i arweinwyr Cristnogol y tu hwnt
i'r enwad ac rydym ni eisiau herio eu agweddau fel
eu bod yn meddwl am safle eu ffydd yng Nghymru
heddiw,” ychwanegodd.
Bydd y wefan newydd,
www.yourtreasury.co.uk yn cyhoeddi newyddion a
llythyrau ychwanegol, yn ogystal â phigion o'r
cylchgrawn. Gallwch hefyd lawrlwytho rhai o'r
tudalennu o rifynnau diweddar ar ffurf PDF drwy
glicio
yma.
Beth am danysgrifio os ydych chi'n
hoffi'r Treasury ar ei newydd wedd?