Dylid cyfyngu’r wythnos waith i 48 er
mwyn amddiffyn gweithwyr, meddai arweinyddion Eglwys
Bresbyteraidd Cymru mewn llythyr i’r Prif Weinidog.
Mae’r
Eglwys wedi cymell y llywodraeth i gymeradwyo’r
Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd.
Mae eithriad presennol y Deyrnas Unedig o’r
Gyfarwyddeb o dan drafodaeth ddwys ar hyn o bryd,
wedi i Aelodau Seneddol Ewropeaidd bleidleisio i
ddileu’r eithriad ym mis Rhagfyr. Byddai hyn yn
golygu na chai gweithwyr Prydeinig weithio mwy na 48
awr yr wythnos ar gyfartaledd a byddent hawliau
tebyg i weithwyr mewn rhannau eraill o Ewrop. Ond
mae llywodraeth y DU a Chyngor Gweinidogion Ewrop,
sy’n cynnwys cynrychiolydd o lywodraeth y DU, yn
gwrthwynebu y penderfyniad hwn.
Dywedodd
y Parchedig Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol
Eglwys Bresbyteraidd Cymru: “Mae
cydbwysedd rhwng gwaith, teulu a bywyd cymdeithasol
yn fater pwysig gan bod oriau hir yn y gwaith yn
gallu cael effaith andwyol ar iechyd. Byddai’r
newid arfaethedig hefyd yn lleihau’r pwysau ar
deuluoedd. Yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur, mae
460,000 o bobl yn y DU yn gweithio dros 60 awr yr
wythnos: baich sydd yn beryglus ac sy’n golygu mwy
na saith o ddyddiau wyth-awr yr wythnos.
Nawr yw’r amser i ystyried newid arferion gweithio
fel y bydd amodau gwaith yn gwella wrth i’r economi
ddod allan o’r dirwasgiad.”
Galwodd Mervyn Phillips, Cadeirydd yr Adran Eglwys a
Chymdeithas am i dydd Sul gael ei gydnabod yn
swyddogol y Gyfarwyddeb fel y dydd gorffwys a
ffefrir: “Mae Cynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd,
sefydliad y mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn aelod
ohono, wedi arwain y ffordd wrth alw am well
cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden ac, fel rhan o
hyn, mae wedi gofyn am i ddydd Sul gael ei gydnabod
fel y dydd gorffwys a ffefrir.
“Ni
fyddai hyn yn golygu bod pobman ar gau ar ddydd Sul,
ond byddai dydd Sul yn cael cydnabyddiaeth
arbennig. O fewn yr eglwysi, mae dydd Sul yn
ddiwrnod arbennig o fawl, gorffwys a hamdden, ond
mae’n wir hefyd bod llawer o bobl sydd ddim yn dod
i’r eglwys yn gweld pwysigrwydd diwylliannol a
chymdeithasol cael dydd Sul fel diwrnod penodol o’r
gwaith. Tra na derbyniwyd y cynnig hwn gan Senedd
Ewrop, mae’n fater y gofynnwyd i lywodraeth y DU
edrych arno fel rhan o symudiad tuag at agwedd fwy
ystyriol tuag at amodau gwaith.”