www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 323 Ebrill 2009

 

Dadlau dros ddatganoli pellach

Bydd cynrychiolwyr o Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn mynegi cefnogaeth i ddatganoli pellach heddiw, gan gyflwyno tystiolaeth i Gonfensiwn Cymru Gyfan yn Wrecsam.

Mae’r Gonfensiwn, sy’n cael ei chadeirio gan Syr Emyr Jones Parry, yn gyfrifol am roi gwybod i bobl am y ffordd mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio ac o ganfod y farn gyhoeddus am fwy o bwerau deddfu i Gymru.  Heddiw bydd y Pwyllgor Gwaith yn casglu tystiolaeth lafar yn Siambr y Cyngor yn Wrecsam.

Mae’r Eglwys eisoes wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig o blaid cynnal refferendwm yn gofyn a ddylai’r Cynulliad gael pwerau deddfu llawn.  Heddiw, bydd Mervyn Phillips a’r Parchedig Glyn Tudwal Jones, Cadeirydd ac Ysgrifennydd yr Adran Eglwys a Chymdeithas, yn egluro pam bod yr Adran am weld proses ddeddfu fwy effeithlon a pam y dylid delio â materion sy’n ymwneud â llywodraethu Cymru yn dda yng Nghymru.

Y Parch Glyn T. Jones a Mr Mervyn Phillips

Pan ofynnwyd iddo pam bod yr Eglwys yn cymryd rhan mewn proses wleidyddiol, dywedodd Mervyn Phillips: “mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn sefydliad Cymreig sydd ag eglwysi ledled Cymru a rôl bwysig yn hanes Cymru.  Rydym ni wedi dadlau o blaid datganoli ers amser maith gan ei bod yn bwysig cael cydnabyddiaeth wleidyddol o hunaniaeth, cymuned a hanes Cymru.  Rydym yn credu bod hwn yn fater perthnasol i’rr eglwys Gristnogol gan ein bod yn poeni am bobl dlawd, pobl fregus, pobl ddiwaith ac hefyd am sut mae pobl yn cydfyw.  Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud ag awdurdod dros fywydau unigolion, ac rydym ni o’r farn y gall lywodraeth ddatganoledig effeithiol gadw cydbwysedd a chefnogi rhyddid yr unigolyn a hawliau dynol.  Ond yn y pen draw wrth gwrs, mae hyn i gyd yn ddibynol ar ras a thrugaredd Duw.”

Ychwanegodd Glyn Tudwal Jones: “Rydym yn cyflwyno tystiolaeth lafar gan ein bod eisiau bod yn rhan o’r holl broses.  Bydd gennym hanner awr i gyflwyno ein tystiolaeth ac yna byddwn yn cael ein holi.  Un o’r prif bwyntiau y byddwn yn eu pwysleisio yw bod y system bresennol, wedi ei seilio ar Orchmynion Cymhwysol Deddfwriaethol, yn drwsgwl ac yn cymryd amser maith.  Rydym ni eisiau gweld ffordd fwy uniongyrchol o lywodraethu a datganoli meysydd polisi cyfan.  Mae cwestiwn y refferendwm hefyd yn bwysig – mae amseru yn hollbwysig gan nad yw datganoli yn cael llawer o sylw ar hyn o bryd, a hynny, wrth gwrs, oherwydd y dirwasgiad economaidd.”

Oes gennych chi farn ar ddatganoli? Beth am ddweud eich dweud drwy ymweld â gwefan Confensiwn Cymru Gyfan?

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 28/04/2009