www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 324 Ebrill 2009

 

Dechrau adeiladu hosbis HIV/Aids yn India

Mae'r gwaith o adeiladu hosbis newydd ar gyfer dioddefwyr HIV/Aids yn nhalaith Mizoram yng ngogledd-ddwyrain India wedi dechrau, a hynny diolch i arian a godwyd gan aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 2006.


Llywydd Synod Mizoram, y Parchedig H. Lalchhanhima,
yn gosod sylfaen yr hosbis newydd (25 Mawrth 2009)

Yn apêl Rhwymo'r Briw yn Rhwymo'r Efengyl, codwyd £35,000 er mwyn cefnogi rhaglen atal HIV/Aids Synod Mizoram. Er nad yw HIV/Aids yn broblem enfawr ym Mizoram, bwriad yr apêl oedd helpu i atal ymlediad yr afiechyd. Gwariwyd cyfran o'r arian ar anfon arbenigwyr o Gymru i helpu i weithredu'r strategaeth ac ar ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Bydd gweddill yr arian, yn ogystal â £25,000 o gronfa ganolog yr Eglwys, yn cael ei ddefnyddio i godi hosbis newydd yn Durtlang.

Mae'r sylfeini bellach wedi eu gosod ar gyfer hosbis Grace Home, a fydd yn cynnig gofal i'r rheiny sydd yn dioddef o HIV/Aids. Y gobaith yw y bydd yr hosbis newydd yn barod ymhen blwyddyn, pryd y bydd staff y Grace Home presennol, canolfan ofal gymuedol, yn symud i'w hadeilad newydd sbon.


Staff Grace Home o flaen yr adeilad presennol

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 24/04/2009