www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 31 Mai 2009

 

Apêl yn gwneud gwahaniaeth i Sierra Leone

Wedi codi £250,000 ar gyfer Sierra Leone fel rhan o apêl Cymorth Cristnogol yn 2007, mae aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru nawr yn cael cyfle i sut mae’r arian wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl y wlad dlotaf yn y byd.

Ym mis Tachwedd 2008, aeth Jeff Williams, Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymorth Cristnogol yng Nghymru, a Branwen Niclas, Pennaeth Cyfathrebu, yn ôl i Sierra Leone i sut mae eu partneriaid yn y wlad wedi defnyddio’r arian.  Maent bellach wedi cynhyrchu DVD ac mae pob un o eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi derbyn copi.


Foray Brima

Cafodd y DVD yn cael ei lansio yn Eglwys y Crwys, Caerdydd nos Iau Ebrill 30.

Cafodd y Barchedig Catrin Roberts, un o drefnyddion yr apêl, ei synnu a’i chyffwrdd wrth wylio’r ffilm am y tro cyntaf. “Mae o’n wych,” meddai. “Roedd gen i ddagrau yn fy llygaid wrth weld wynebau cyfarwydd a’r ffordd mae eu bywydau nhw wedi gwella, a dwi’n teimlo mor falch mai ni sydd yn gyfrifol am hyn.”

Ymysg y bobl sy’n ymddangos ar y DVD mae Foray Brima. Foray oedd yr ieuengaf o’r wyth gŵr a ddychwelodd i bentref Ngokulu wedi’r rhyfel cartref. Pan gyrhaeddodd y rebels Ngokulu bu’n rhaid i bob teulu ffoi. Llosgwyd pob adeilad i’r llawr, a ddaeth neb yn ôl am 6 blynedd. Y bore wedi iddyn nhw ddychwelyd, dechreuodd y dynion ail-adeiladu’r pentref. Gyda help MCSL, un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone, cliriwyd y tir, plannwyd caeau reis, agorwyd pwll pysgod a grymuswyd y gymued.

Bellach mae’n bentref prysur o deuluoedd gweithgar yn cyd-fyw’n hapus. Mae Foray’n ffarmwr casafa llwyddianus, ei wraig yn dysgu gwneud sebon gyda gwragedd eraill y pentref, ac newydd roi genedigaeth i’w ail-blentyn. Foray ydi Cadeirydd y Clwb Heddwch a Hawliau Dynol yno, ac mae bron a gorffen adeiladu ty ar gyfer ei deulu ifanc. Gan ei fod wedi colli 10 mlynedd o addysg oherwydd y rhyfela, mae newydd gychwyn gwersi llythrenedd o dan ofal MCSL.


Jeff Williams gyda Bintu Sylvester, sy'n mynychu Canolfan Byw'n Bositif
yr Eglwys Fethodistaidd (MCSL) yn Freetown

“Bu’r ymateb i Apel Sierra Leone yn wych a bydd y ffilm yn ffordd newydd, gyffrous i ddiolch i’r eglwysi am eu haelioni a dangos sut mae’r arian yn llythrennol ar waith yn y wlad,” meddai Jeff Williams.

“Mae’r DVD yn gyfle i weld ambell wyneb cyfarwydd a chlywed straeon newydd sbon am y ffyrdd allweddol mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gweithio yno. Fy ngobaith yw y bydd y ffilm yn dangos yn glir y gwahaniaeth sydd yn cael ei wneud gan bobl Cymru yn Sierra Leone ac y bydd yn ysbrydoliaeth i’r eglwysi i ddal ati i gefnogi gwaith adfywiol Cymorth Cristnogol.”

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 06/05/2009