Bu
farw rhwng 40 a 50 miliwn o bobl yn ystod
pandemig ffliw Sbaen 1918-19 – chwe gwaith yn
fwy nac a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf –
meddai Edward Davies mewn erthygl drawiadol o
amserol yn rhifyn mis Ebrill o gylchgrawn
Y Traethodydd.
Cafodd
gogledd Cymru ei effeithio yn ddifrifol gan y
salwch: Sir Gaernarfon oedd y sir â’r gyfradd
uchaf o farwolaethau drwy Gymru a Lloegr, gyda
Sir Fflint yn bedwerydd ar y rhestr. Bu farw
607 o drigolion Arfon yn ystod y pla – cyfradd o
6.7 allan o bob mil. Yn
Hynt a Helynt Boneddiges Sbaen yng Ngogledd
Cymru, mae Edward Davies yn
awgrymu bod y ffliw wedi effeithio rhai rhannau
o ogledd Cymru yn ddifrifol iawn oherwydd y
cysylltiad agos bryd hynny â phorthladd Lerpwl,
â 40,000 o drigolion y ddinas wedi mudo yno o
Gymru.
Mewn ambell achlysur roedd teuluoedd cyfan, gan
gynnwys y morynion, yn gaeth i’r gwely ar yr un
pryd. Gan gan nad oedd digon o bobl i baratoi
bwyd ar gyfer y cleifion, agorwyd ceginau cawl
yng Nghaernarfon a Llanberis, gyda’r diet yn
cynnwys tê cig eidion, potes cig dafad, dŵr
haidd a lemonêd. Adlewyrchwyd pryder ac ofn
pobl Llanberis yn yr
Herald Cymraeg: “Rydym
yn byw mewn dyddiau enbyd yn ofni bob munud o’r
dydd glywed am farw rhai o’n cymdogion a’n
cyfeillion. Mae cydymdeimad mawr i’w ganfod â’r
teuluoedd sydd yng nghanol y ddrycin.”
Cafodd y firws anhawster wrth geisio croesi’r
Fenai a chafodd llai o bobl eu taro’n wael yn
Sir Fôn. Ond ni lwyddodd pawb i osgoi’r ffliw:
yn 4 Stryd Henri, Caergybi, trigai William
Williams, ei wraig a chwech o blant. Bu farw’r
ddau riant a dau o’r plant o fewn pum diwrnod
i’w gilydd.
Nid
oedd y ffliw yn gwahaniaethu rhwng tlodion a
chyfoethogion: bu bron i Lloyd George ei hun
farw o’r ffliw. Yn ystod y pandemig, a barhaodd
am 46 wythnos, lladdwyd 151,446 yng Nghymru a
Lloegr. Er nad oedd y rhan fwyaf o’r cleifion
mewn perygl o farw, fel y dengys newyddion
diweddar am ffliw moch mae’r ffliw yn salwch
sy’n parhau i beryglu bywydau, gan ladd tua
12,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn flynyddol.
Y Traethodydd
yw
cylchgrawn hynaf Cymru a’r Gymraeg. Mae’n
chwarterolyn diwylliannol sy’n cynnwys erthyglau
hanesyddol a llenyddol, yn ogystal â
thrafodaethau ar bynciau diwinyddol ac
athronyddol ac adolygiadau.
Gellir prynu’r
Traethodydd
trwy siopau llyfrau leol neu fe ellir
tanysgrifio’n flynyddol (£3.00 y rhifyn, £12 y
flwyddyn) trwy gysylltu â Gwasg y Bwthyn, Lôn
Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER (01286 672018).
I ymweld â thudalennau gwe
Y Traethodydd,
cliciwch yma.