Bydd degau o eglwysi Eglwys
Bresbyteraidd Cymru yn agor eu drysau ar ddydd
Sadwrn 30 Mai ac yn gwahodd aelodau ac aelodau
o'r cyhoedd i mewn i dreulio munudau tawel o fyfyrdod a gweddi.
Mae
dydd gweddi ARHOSWCH!...yn enw Duw wedi
ei drefnu er mwyn cofio sut y gwnaeth Duw
dywallt ei nerth
a’i egni i fywydau pobl,
gan ddyfnhau eu hargyhoeddiad a chreu cymuned
newydd – yr Eglwys – adeg y Pentecost
"Rydym yn profi gwasgfa ariannol
sy'n herio ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau,
sy'n bwrw miloedd i ddiweithdra ac yn
peri i deuluoedd golli cartrefi; sy’n creu
cwmwl dros gymdeithas," meddai'r
Parchedig Dafydd Andrew Jones, Cyfarwyddwr y
Bwrdd Bywyd Thystiolaeth.
"Dyma felly gyfle i rannu
a thystio i werthoedd ein Harglwydd a’n
Gwaredwr."
"Gwyddom pa mor wan ydy’r Eglwys
Cristnogol yng Nghymru," ychwanegodd. "Mae problemau yn medru
parlysu cynulleidfaoedd sy’n cofio dyddiau
gwell. Ond gobeithio bydd y dydd gweddi
hwn, ynghyd â'n holl weithgareddau a'n gweddïau
ar adegau eraill, yn helpu i ddod ag adfywiad
i'n heglwysi ac i'n cymunedau."
Adnoddau
ar gyfer ARHOSWCH!...yn enw Duw: