Ar
27 Medi 2009 bydd hanner miliwn o bobl yn
gwahodd rhywun arbennig i ddod nôl i’r capel
gyda nhw. Mae pobl yn colli cysylltiad â’r
eglwys am bob math o wahanol resymau ond byddai
llawer yn dychwelyd petaent yn cael gwahoddiad.
Ar
Sul Croeso Nôl 2008, fe wnaeth 3,000 o eglwysi
ar hyd a lled Prydain wahodd a chroesawu 37,000
o ffrindiau yn ôl atynt.
Eleni am y tro cyntaf, mae Eglwys Bresbyteraidd
Cymru yn cymryd rhan yn Sul Croeso Nôl. Rydym yn
gobeithio y bydd llawer o'n haelodau yn cymryd
mantais o'r cyfle syml ond gwych hwn i wahodd eu
ffrindiau i ddod nôl i'r capel efo nhw!
Bydd pob eglwys EBC sy'n cymryd rhan yn Sul
Croeso Nôl 2009 yn derbyn pecyn adnoddau Cymraeg
gwerth £27 yn cynnwys gwahoddiadau, cardiau
post, DVD a phosteri i'w helpu i hyrwyddo'r
digwyddiad. Byddwn hefyd yn anfon taflen
wybodaeth i chi a gallwn drefnu i swyddog ddod
i'ch cyfarfod er mwyn eich helpu i drefnu'r
diwrnod.