www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 33 Mehefin 2009

 

Pleidleisiwch yn etholiadau Ewrop

“Defnyddiwch eich hawl democrataidd i bleidleisio” yw neges arweinyddion Eglwys Bresbyteraidd Cymru i bobl Cymru cyn yr etholiadau i’r Senedd Ewropeaidd a gynhelir yfory.

“Senedd Ewrop yw’r unig sefydliad Ewropeaidd sy’n cael ei ethol yn uniongyrchol a bydd y seneddwyr yn gwneud penderfyniadau pell-gyrhaeddol fydd yn ein heffeithio ni yng Nghymru, Ewrop a’r byd,” meddai’r Parchedig Haydn Thomas, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru. “Mae gennym ni i gyd gyfle rŵan i godi materion yn ymwneud â’r amgylchedd, tlodi ac urddas cymdeithasol, allfudo ac amddiffyniad ffoaduriaid, heddwch a datblygiad.  Mae rhain yn faterion pwysig iawn i’r eglwys ac maent yn effeithio cymunedau cyfan.

“Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ynghyd â llawer o eglwysi Prydeinig eraill, yn aelod o Gynhadledd Eglwysi Ewrop (CEC), sydd wedi annog ei haelodau ar hyd a lled Ewrop i gwestiynu ymgeiswyr ac i bleidleisio, er mwyn sicrhau y gynrychiolaeth gryfaf bosibl i ofalu am bryderon ehangach yn ogystal â materion lleol, penodol.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchedig Ifan Roberts: “Mae pob un o’n henaduriaethau – 14 o gyrff llywodraethol lleol – wedi derbyn copi o lyfryn CEC ar yr etholiadau Ewropeaidd.  Dydy o ddim yn dweud wrth ein haelodau dros bwy y dylent bleidleisio ond mae o’n eu hannog nhw i edrych yn ofalus ar beth mae’r ymgeiswyr yn gaddo’i wneud faterion pwysig fel yr amgylchedd a chyfiawnder cymdeithas, ac i fwrw’u pleidlais yn ôl hynny.”

bullet

Cliciwch yma i ymweld â gwefan etholiadau Ewropeaidd CEC

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 03/06/2009