Mewn llythyr i'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt
AC, mae cynrychiolwyr Eglwys Bresbyteraidd
Cymru wedi cefnogi argymhellion adroddiad yr
Athro Robin Williams ar sefydlu Coleg
Ffederal Cymraeg.
"Buom
fel enwad yn pwyso’n gyson am ddarpariaeth
o’r fath ers pum mlynedd, ac rydym wedi’n
calonogi’n fawr o ddarllen adroddiad y Bwrdd
Cynllunio," meddai'r Parchedig
Glyn Tudwal Jones, Ysgrifennydd yr Adran
Eglwys a Chymdeithas. "Cytunwn
yn llwyr â galwad y Bwrdd i weld sefydlu’r
Coleg Ffederal ym mis Medi 2010, ac iddo fod
yn gwbl weithredol erbyn Medi 2011. "
Fe wnaeth Eglwys
Bresbyteraidd Cymru
gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd yn ogystal â
derbyn y gwahoddiad i fod yn bresennol yn y cyfarfod
agored a gynhaliwyd ar ddiwedd tymor gwaith y Bwrdd.
"Er
ein bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau
ariannol dwys ar hyn o bryd ym myd Addysg
Uwch yn gyffredinol, cytunwn fod y
‘chwistrelliad cyllidol graddol’ y mae’r
Bwrdd yn galw amdano dros y deng mlynedd
nesaf yn gwbl angenrheidiol a rhesymol,"
ychwanegodd y Parchg Jones. "Byddai'r
buddiannau economaidd, diwylliannol a
chymdeithasol yn sylweddol. Croesawn
yr awgrym a wneir bod angen gwneud llawer i
hybu datblygiad Addysg Uwch trwy gyfrwng y
Gymraeg, a rhoi pob anogaeth i fyfyrwyr
ddilyn eu cyrsiau drwodd o’r ysgol i’r
brifysgol yn y Gymraeg."
Mae'r llythyr yn pwyso ar y Gweinidog i
dderbyn argymhellion y Bwrdd Cynllunio, ac i
sicrhau cytundeb Llywodraeth Cynulliad
Cymru i osod yr arian angenrheidiol o’r
neilltu, fel y gellir sefydlu’r patrwm a
amlinellir yn yr adroddiad.