www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 314 Medi 2009

 

Galw am dynnu milwyr o Affganistan

Dylai llywodraeth Prydain dynnu ei milwyr allan o Affganistan, yn ôl Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Yn ei araith ymadawol, galwodd y Parchedig Haydn Thomas ar i Gordon Brown ddychwelyd at ei wreiddiau fel mab y mans, gan seilio ei bolisi tramor ar egwyddorion Cristnogol.

“Ai rhyfel sy’n ennill dim byd ond gelynion yw’r ffordd fwyaf effeithiol o rwystro cyflafan debyg i’r un yn Llundain bedair blynedd yn ôl?”, holodd. “Mae’r byd wedi colli’r ffordd.  Nid ateb terfysgaeth gyda therfysgaeth yw’r ateb.  Eisoes, mae pedair gwaith yn fwy o filwyr Prydeinig wedi eu lladd yn Affganistan nag a laddwyd ar y seithfed o Orffennaf.  Rhaid canfod ffordd wahanol: ailddarganfod diplomyddiaeth a chymod, atgoffa’n hunain a’n gwleidyddion bod yna ffordd arall, sef ffordd Crist.”

Ddydd Llun diwethaf, pleidleisiodd y Gymanfa Gyffredinol o blaid pwyso ar Gordon Brown i dynnu’r milwyr allan o Affganistan.

Fe wnaeth y Llywydd ddadlau bod y ffordd Gristnogol yn absennol mewn materion economaidd hefyd: “Rydym wedi gweld yn glir sgil effeithiau trachwant bancwyr: y wlad mewn dyled enfawr ond y bancwyr yn parhau i ennill bonws enfawr.  Mae ein blaenoriaethau yn ffradach, ac mae hyn i’w weld ym mhobman, o gyflogau pêl-droedwyr i guddio’r Groes mewn pennod o Coronation Street.”

“Mae gan ddirywiad yr Eglwys ran fawr i’w chwarae yn hyn i gyd.  Ond lle mae ewyllys mae yna ffordd.  Rydw i am i ni Gristnogion beidio ymddiheuro am ein gwendid, ond i ganolbwyntio yn hytrach ar ailddarganfod sut i ddangos Crist i’r byd.  Yn ein gweithredoedd, ein geiriau ac hyd yn yn oed wrth bleidleisio mewn etholiad, gallwn ddangos nad oes rhaid i drachwant a therfysg ac anfoesoldeb fod yn rhannau annatod o’n cymdeithas.”

bullet

Lawrlwytho'r llythyr a anfonwyd i Gordon Brown a David Miliband (PDF, 38KB)

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 25/09/2009