Dim carchar
i Gaernarfon yn ergyd i deuluoedd
Mae gwirfoddolwyr a gweithwyr asiantaeth Gristnogol ar gyfer
cyn-garcharorion a’u teuluoedd wedi mynegi siom yn dilyn y
newyddion na fydd carchar yn cael ei adeiladu yng Nghaernarfon
wedi’r cwbl.
Mae
BARA, asiantaeth Gristnogol a noddir gan Eglwys Bresbyteraidd
Cymru, yn helpu cyn-droseddwyr ac yn cynnig rhwydwaith o
gefnogaeth i deuluoedd carcharorion yng Nghaernarfon.
“Mae’n ergyd,” meddai Mererid Mair, cyd-gordiwr BARA ygn
Nghaernarfon a gweithwraig gymunedol yn Eglwys Noddfa ar Ystâd
Sgubor Goch yn y dref. “Rydan ni’n cefnogi teuluoedd sydd â
rhywun yn y carchar, a byddai cael carchar yma wedi gwneud
pethau gymaint yn haws iddyn nhw. Mae’n wirion bod ‘na ddim
carchar yng ngogledd Cymru. Ac mae’r ochr economaidd hefyd –
rydan ni angen swyddi yng Nghaernarfon.”
“Dweud y gwir, heddiw mae ‘na ddau wirfoddolwr efo BARA wedi
gyrru’r holl ffordd lawr i Ben-y-Bont i weld aelod o’r teulu yng
Ngharchar y Parc. Dydi o ddim wedi cael ymwelydd ers cyn ‘Dolig
diwethaf, yn rhannol oherwydd ei bod hi’n hunlle’ trio mynd i
lawr yno.”
Mae tua un o bob tri carcharor yng Ngharchar Altcourse, Lerpwl,
yn dod yn wreiddiol o ogledd Cymru. Mae BARA yn helpu
cyn-droseddwyr wrth iddynt geisio symud yn ôl i ogledd Cymru,
gan gynnig cymorth gyda chanfod llety neu ddelio â phroblemau
alcohol neu gyffuriau eraill, yn ogystal â rhoi anogaeth gyda
gwaith, addysg a hamdden.
Mae
gwirfoddolwyr BARA hefyd yn cefnogi teuluoedd y troseddwyr wrth
iddynt ddod i dermau ag absenoldeb gŵr, mab neu dad, ac yna yn
eu helpu i addasu wedi iddo gael ei ryddhau. Fe’i noddir yn
bennaf gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ymysg eraill.
Gallwch ymweld â gwefan BARA drwy fynd i:
www.bara.uk.net.