www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 328 Hydref 2009

 

Blwyddyn gap yn Amsterdam - barod amdani?

Rhwng 18 a 25 mlwydd oed?

Edrych am her?

Yn barod i archwilio Cristnogaeth, ti dy hun a'r byd o dy gwmpas?

Fodlon rhoi 10 mis o dy fywyd i wneud gwahaniaeth a byw yng nghanol Amsterdam?


Tîm Tŷ'r Genhadaeth 2009-10

Mae Tŷ'r Genhadaeth yng nghanol Amsterdam ac yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan mewn cenhadaeth Gristnogol a gwneud gwaith cymdeithasol.

Mae'n cael ei noddi gan sawl corff eglwysig Ewropeaidd, yn cynnwys Adran Ewrop Cyngor y Genhadaeth Fyd Eang (CWM). Fel aeod o CWM, mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cael anfon cynrychiolydd ifanc i fyw a gweithio yn Nhŷ'r Genhadaeth am 10 mis.

Am wybodaeth bellach, ffoniwch swyddfa EBC ar 02920 627465, gyrrwch e-bost i swyddfa.office@ebcpcw.org.uk neu cliciwch ar y dolenni isod:

bullet

Gwefan Tŷ'r Genhadaeth - yn cynnwys ffilmiau byr a chyflwyniad powerpoint.

bullet

Taflen (PDF 739KB) a chylchlythyr Tŷ'r Genhadaeth (PDF 1.3MB) (Saesneg)

bullet

Penwythnos Blasu Tŷ'r Genhadaeth (PDF) - 21-23 May 2010. Spend a weekend finding out more about the Mission House. No obligation!

bullet

Ffurflen gais Tŷ'r Genhadaeth (Word - Saesneg))

Os ydych chi'n adnabod rhywun allai fod â diddordeb, gofynnwch iddynt gysylltu â ni!

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 28/10/2009