Mae cynrychiolwyr Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi
croesawu adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan.
Mae’r
Gonfensiwn, a fu’n gyfrifol am gynnal dadl ar ddyfodol
gwleidyddol Cymru, wedi cyhoeddi ei hadroddiad heddiw,
gan argymell cynnal refferendwm ar bwerau deddfu llawn i
Gymru.
Wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar i’r
Gonfensiwn yn gynharach eleni, dywedodd Mervyn Phillips,
Cadeirydd Adran Eglwys a Chymdeithas yr Eglwys, ei fod
yn falch fod y Gonfensiwn wedi cymryd sylw o
safbwyntiau’r Eglwys.
Yn lawnsiad cyhoeddus Adroddiad y Gonfensiwn yng
Nghaerdydd heddiw, dywedodd Mr Phillips: “Mae Eglwys
Bresbyteraidd Cymru yn croesawu’r adroddiad a’r ffordd y
mae’n delio â’r materion a godwyd gennym. Rydym yn
croesawu’r farn ganolog bendant fod yn rhaid datrys y
problemau gyda’r gyfundrefn bresennol, gan ddod â Chymru
yn nes at y gyfundrefn Albanaidd. Mae’r adroddiad yn
dod i’r casgliad y gellid ennill refferendwm, ac mae hyn
hefyd i’w groesawu. Barn y Gonfensiwn yw fod angen
gwneud mwy o waith i ddwyn perswâd ar rai rhannau o’r
etholaeth, ac mae hefyd yn datgan y dylai’r adolygiad
cyfansoddiadol fynd i’r afael â’r ffordd y mae
gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffyrdd gwahanol ar
draws ffiniau cenedlaethol. Dylai datganoli ganiatáu i
benderfyniadau llywodraethol gael eu gwneud yn nes at y
bobl, ac mae’r cynigion yma yn gam pwysig ymlaen wrth
wella’r broses yna yng Nghymru.”
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gefnogwr blaenllaw o
ddatganoli yng Nghymru ers amser maith, meddiw Mr
Phillips.
|
 |
|
Mervyn Phillips |
“Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn sefydliad Cymreig
sydd ag eglwysi ledled Cymru a rôl bwysig yn hanes
Cymru. Rydym ni wedi dadlau o blaid datganoli ers amser
maith gan ei bod yn bwysig cael cydnabyddiaeth
wleidyddol o hunaniaeth, cymuned a hanes Cymru. Rydym
yn rhan o’r gymuned ac mae a wnelo hunaniaeth y gymuned
yno â ni. Mae cael gwaith y llywodraeth yn nes at y
bobl yn gam hollbwysig ymlaen.”