www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 34 Rhagfyr 2009

 

Cynulliad yn dewis Digwyddiad Heddwch fel esiampl dda

Mae Digwyddiad Heddwch sy'n cael ei gynnal yn Eglwys Tŷ'r Gymuned, Casnewydd, wedi cael ei ddewis fel astudiaeth achos yn Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad.

Mae'r Digwyddiad Heddwch yn ceisio hyrwyddo mwy o gyd-dynnu rhwng pobl o wahanol grefyddau. Mae nawr wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth y Cynulliad fel enghraifft o arfer gorau mewn ymdrechion i hybu cydlyniant cymunedol yng Nghymru.

bullet

Gallwch lawrlwytho copi o'r Strategaeth Cydlyniant Cymuendol drwy glicio yma (PDF)

Yn lansiad y Strategaeth yn Wrecsam ar 3 Rhagfyr, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons: "Mae cydlyniant cymunedol yn ymwneud â chyd-dynnu ac mae'r Strategaeth yn anelu at gyflawni ei haddewid.  Mae'n ymwneud â gwahanol adrannau o'r gymuned yn dysgu i barchu ei gilydd, i ddeall safbwyntiau ei gilydd ac i gyd-dynnu hyd yn oed pan fydd gwahaniaethau rhyngddynt."

Dywedodd y Parchedig Dafydd Andrew Jones, Cyfarwyddwr Bywyd a Thystiolaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ei bod yn "Fraint ac yn llawenydd mawr i Eglwys Bresbyteraidd Cymru fod yn rhan o weithgarwch sydd a'i fwriad i groesi ffiniau iaith, crefydd, diwylliant, er mwyn creu cymuned gytûn."

Wrth siarad ynglŷn â lansiad y Strategaeth, dywedodd Marilyn Priday, Gweithwraig Ddatblygu Rhyng-Ffydd Tŷ'r Gymuned: "Aeth Sue Lewis a fi i Wrecsam ar gyfer y cyfarfod, oedd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Catrin Finch yn y Brifysgol. Mae wastad yn dda cyfarfod pobl newydd a gwneud rhywfaint o rwydweithio. Yna dydd Llun yma roedd Cyngor Rhyng-Ffydd Cymru yn cyfarfod yn Nhŷ'r Gymuned. Fi yw cynrychiolydd Rhyng-Ffydd Casnewydd ar y Cyngor. Hwn oedd fy nghyfarfod cyntaf. Roedd o'n gyfle i ni ddangos beth sy'n digwydd yn Nhŷ'r Gymuned."

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 10/12/2009