|
Golwg
ar y Byd 2010

Cynhadledd wyliau yw Golwg ar y Byd,
yn cael ei threfnu gan CWM Rhanbarth Ewrop, Awst 7-13, 2010. Mae’r
gynhadledd yn gyfle i gyfarfod â’r eglwys fyd-eang a dysgu mwy am
genhadaeth.

Yn 2010 bydd yr addoliad o dan
arweiniad “Siyaya,” grŵp o bobl ifanc o Ganolfan
JL ZWANE, Guguleto, De Affrica. Mae aelodau’r grŵp
wedi teithio i sawl gwlad gyda’u cerddoriaeth a’u haddoliad bywiog,
gan gynnwys ymweliad yn 2008 i Washington DC gyda’r Archesgob
Njongonkulu Ndungane
o Cape Town. Y Parchg Elizabeth Joy, Ysgrifennydd Gweithredol
Addysg mewn Cenhadaeth CWM fydd yn arwain yr addoliad gyda’r nos a
bydd y Parch Shou-Hui
Chung, partner cenhadol o Daiwan yn arwain ein cyfarfodydd gweddi
cynnar - tîm arwain addoliad sydd yn fyd-eang yng ngwir ystyr y
gair!
Bydd y Parchg Ddr Janet Wootton yn ysbrydoli’r
gynhadledd wrth drafod y thema “Dal Goleuni Crist.” Mae Janet yn
Gyfarwyddwr Astudiaethau gyda’r Congregational Federation, yn
adnabyddus fel awdur emynau, fel diwinydd ac awdur llyfrau. Bydd y
thema yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng cenhadaeth ac addoliad -
sut mae addoliad yn ysbrydoli’r eglwys i genhadu ac fel mae cenhadu
yn bwydo addoliad yr eglwys.
Mae’r gynhadledd yn darparu digon o weithgareddau ar
gyfer pobl o bob oed. Bob bore darperir rhaglen fywiog ar gyfer
plant a phobl ifanc. Yn y prynhawn gellir defnyddio’r adnoddau
gweithgareddau awyr agored, neu deithio o amgylch yr ardal, mynychu
gweithdai, a gyda’r nos ceir adloniant ar gyfer pob oed.
Lleoliad y gynhadledd yw’r Pioneer Centre yn Cleobury
Mortimer, ger Kidderminster. Mae gan y Ganolfan adnoddau
gweithgareddau awyr agored ardderchog ar gyfer pob oed, gan gynnwys
abseilio, nofio, dringo ac ymladd cleddyfau. Darperir llety yn
bennaf mewn ystafelloedd en-suite ar gyfer 2, 3 a 4 o bobl.
Am fwy o fanylion cysylltwch â CWM Europe, Colin Sanders Innovation Centre, Mewburn Road,
Banbury, Oxfordshire, OX16 9PA (dalier
sylw: cyfeiriad newydd)
neu â Swyddfa Ganolog Eglwys Bresbyteraidd Cymru. |