www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 313 Ionawr 2010

 

Daeargryn Haiti: Apêl Argyfwng

Ofnir bod miloedd o bobl wedi eu lladd a nifer sylweddol yn ddigartref yn dilyn daeargryn dinistriol yn Haiti. Mae’r wlad hon yn un o’r mannau tlotaf ar y ddaear, ac mae’r argyfwng sy’n datblygu yno’n golygu dioddefaint a chaledi i gymunedau sydd eisoes yn fregus.

Digwyddodd y ddaeargryn, oedd yn mesur 7.0 ar raddfa Richter, tua 15km i’r de-orllewin o’r brif ddinas, Port-au-Prince, ar 12fed Ionawr. Credir mai hon yw’r ddaeargryn gryfaf yn Haiti am fwy na 100 mlynedd. Dymchwelwyd swyddfa Cymorth Cristnogol, a bu’n rhaid achub tri pherson, yn cynnwys aelodau staff Cymorth Cristnogol, o’r rwbel.

Mae 80% o boblogaeth Haiti yn byw o dan y llinell dlodi. Roedd strwythurau’r wlad eisoes yn fregus, ac mae’r ddaeargryn wedi creu dinistr eang i gartrefi ac ysgolion, yn ogystal â niwed sylweddol i wasanaethau dŵr, trydan a ffyrdd. Gadawyd miloedd yn ddigartref ac y mae angen dirfawr am loches, dŵr glân, bwyd a meddyginiaethau.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi helpu Cymorth Cristnogol i gael cymorth brys i bobl fregus iawn.

Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn Haiti yn y brofiadol iawn yn y gwaith o ymateb i argyfyngau ac ail-adeiladu bywyd cymunedau a ddioddefodd argyfwng. Mae’r rhanbarth yn un sy’n cael ei daro’n aml gan gorwyntoedd ac mae’n partneriaid wedi llwyddo i ddarparu cymorth brys yn dilyn trychinebau blaenorol. Maent yn awr yn gweithio 24 awr i gyfarfod ac anghenion brys y bobl a effeithir gan y trychineb hwn.

Mae Cymorth Cristnogol eisoes wedi rhyddhau £100,000 i’w phartneriaid yn y rhanbarth. Yr ydym yn gobeithio anfon mwy ac yr ydym wedi lansio apêl argyfwng i godi £1M, er mwyn ceisio cyfarfod â’r angen enfawr. Bydd angen eich cymorth er mwyn i’n partneriaid allu parhau i helpu pobl Haiti. Cofiwch fe all swm bach helpu achub bywydau.

Gall £7 brynu tarpolin i roi lloches.

Gall £13.50 brynu citiau babanod, gan gynnwys bwyd i faban am bythefnos.

Gall £18 brynu stamp fwyd, fydd yn darparu bwyd tin, blawd, reis, siwgr ac olew coginio am bythefnos i deulu o bedwar.

Cofiwch gallwch gyfrannu ar lein yn www.cymorthcristnogol.org.uk neu ffonio un o’n swyddfeydd lleol: Caerdydd ar 029 2084 4646; Bangor ar 01248 353574 neu Caerfyrddin ar 01267 237257.

Gweddi dros Haiti

Duw cariadus y greadigaeth,
ar yr adeg hon o ddinistr
cyflwynwn i ti bobl Haiti.
Pan fo’r difrod yn anodd ei ddychmygu, 
a’r dioddefaint yn ymddangos yn llethol,
atgoffa ni fod pob person a effeithir
yn cael ei garu, a’i anrhydeddu ac yn werthfawr yn dy olwg.
Cofiwn am bawb a anafwyd;
pawb a gollodd eu cartrefi, bywoliaethau ac anwyliaid.
Gweithia trwom ni i ddwyn iechyd
i fywydau a ddarniwyd ac a anffurfiwyd,
heddwch i bawb a daflwyd i anobaith,
goleuni i’r rhai sydd mewn tywyllwch,
a gobaith i bawb sy’n ofni.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu,
y ceir ynddo bob bywyd a gras
.

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 29/01/2010