Ail-adeiladu yn y Barri
Am dros ddegawd bu
pwyllgor adeiladau Eglwys y Drindod Sanctaidd, y Barri, yn ystyried
sut i sicrhau fod adeiladau'r eglwys yn cyfarfod â gofynion y ganrif
newydd.
Yn anffodus roedd
y neuadd, oedd yn 120 mlwydd oed, yn anniogel a doedd dim modd cael
mynediad i gaderiau olwyn. Daeth yn glir y byddai angen adeiladu
neuadd newydd, yn enwedig gan mai dyma'r unig eglwys anghydffurfiol
sydd ar ôl yng nghanol y Barri.
Llwyddodd yr eglwys i godi dros £105,000 drwy gynnal
cyngherddau, gyrfâu chwilod a phob math o weithgareddau eraill.
Cafwyd grantiau hael gan henaduriaeth y De-Ddwyrain, gan Lywodraeth
Cynulliad Cymru (drwy'r Rhaglen Cyfleusterau a
Gweithgareddau Cymunedol) a gan sawl ffynhonnell arall. Fe wnaeth
dros 700 o bobl arwyddo deiseb fel rhan o'r cais am grant gan
Lywodraeth y Cynulliad!

Yr hen Neuadd yn cael ei chwalu er mwyn gwneud lle i'r adeilad
newydd
Mae'r neuadd newydd nawr yn cael ei hadeiladu, ac er bod rhywfaint o
aflonyddu ar waith yr eglwys wrth i'r gwaith fynd rhagddo, mae'r
aelodau yn edrych ymlaen at gael cyfleusterau newydd ar gyfer
defnydd yr eglwys a'r gymuned.
Tristwch oedd clywed am farwolaeth Mr Gareth Howe, Stiward
Adeiladau Eglwys y Drindod Sanctaidd, cyn i'r gwaith gael ei orffen.
Diolch iddo am ei waith a'i ymroddiad i Eglwys y Drindod Sanctaidd,
a phob cydymdeimlad â'i weddw a'r teulu.