Arweinwyr
Enwadau:
Pryder am gau adrannau Prifysgol
Byddai cau pump o Adrannau Prifysgol Bangor yn tanseilio addysg trwy
gyfrwng y Gymraeg ac yn ergyd drom i ysgolheictod, yn ôl tri o
arweinwyr Cristnogol Cymru sy’n galw ar Gyngor y Brifysgol i wrthod
y cynllun.
Mae Ysgrifenyddion Cyffredinol y Presbyteriaid, y Bedyddwyr a’r
Annibynwyr yn poeni’n arbennig am ddyfodol yr Adran Diwinyddiaeth ac
Astudiaethau Crefyddol. Mewn cyfnod pan mae angen dealltwriaeth glir
o Gristnogaeth draddodiadol Cymru a chrefyddau lleiafrifol eraill,
mae’n rhyfeddod fod Prifysgol Bangor hyd yn oed yn ystyried
diddymu’r Adran, meddai’r tri mewn llythyr at Is-Ganghellor y coleg.
Mae disgwyl i Gyngor y Brifysgol drafod dyfodol yr Adrannau cyn
diwedd y mis hwn.
I ddarllen y
llythyr yn llawn,
cliciwch yma.
Llun:
Dogfael