Arweinwyr
Enwadau:
Llythyr i Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
“Annwyl Is-Ganghellor,
Ysgrifennwn atoch fel Ysgifenyddion Cyffredinol tri o’r prif enwadau
yng Nghymru i ddatgan ein siom o ddarllen yn y wasg yn ddiweddar am
y trafodaethau sy’n digwydd o fewn y Brifysgol ynglŷn â’r
posibilrwydd o gau pump o Adrannau.
Er bod ein diddordeb yn bennaf yn yr Adran Diwinyddiaeth ac
Astudiaethau Crefyddol, mae’n consyrn yn ymestyn hefyd dros yr
Adrannau eraill, a hynny oherwydd yr effaith y gallai eu diddymu ei
gael ar ddarpariaeth ‘dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg’ y Brifysgol.
Diau y byddwch yn cofio mai trwy ymgyrchu egnïol y llwyddwyd i
sicrhau y ddarpariaeth hon yn y lle cyntaf, ac mae unrhyw sôn am
ddatblygiadau a allasai ei thanseilio yn achos consyrn o’r mwyaf i’r
tri ohonom. Teimlwn y dylai’r Brifysgol, fel sefydliad Cymreig, roi
ystyriaeth i brif elfennau hanes a bywyd ein cenedl ac, yn sicr, y
mae’r iaith Gymraeg yn un o’r elfennau hynny. Ein teimlad yw, os na
allwn ddibynnu ar Brifysgol i’w gwarchod, yna ymddengys y dyfodol yn
ansicr iawn. Gwyddom fod a wnelo ffactorau ariannol â’r trafodaethau
sydd yn digwydd ynglŷn â’r cau, ond credwn fod cyfrifoldeb moesol
ehangach hefyd i’w gymryd i ystyriaeth.
Y mae’r tri ohonom mewn sefyllfa pur dda i fesur cyfraniad yr Adran
Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol i fywyd Cymru, gan i ni ein
tri dderbyn mesur o’n haddysg o’i mewn. Y mae i’r Adran draddodiad o
ysgolheictod gwych dros ben, ac un o’i chyfraniadau pennaf yn ystod
y cyfnod diweddar oedd chwarae rhan flaenllaw ac allweddol yn y dasg
o ddarparu ar ein cyfer fel Cymry gyfieithiad Cymraeg newydd o’r
Beibl. Dros y blynyddoedd mae’r Adran wedi dangos gallu rhyfeddol i
addasu i anghenion gwahanol gyfnodau, ac yn y cyfnod hwn, pan mae
cymaint angen am ddealltwriaeth glir o Gristnogaeth draddodiadol
Cymru a chrefyddau lleiafrifol eraill, mae’n rhyfeddod i ni fod
Prifysgol o safon Bangor hyd yn oed ystyried diddymu’r Adran sy’n
astudio’r pwnc.
At hynny, o ddyddiau cynnar sefydlu’r Adran, gwnaeth aelodau unigol
o’r staff gyfraniadau clodwiw ac ardderchog i ysgolheictod
cenedlaethol, Prydeinig, Ewropeaidd a byd-eang, a hynny trwy
gyhoeddi gweithiau sydd wedi rhoi sylw i hanes, diwylliant a
chyfraniad Cymru yn yr amrywiol gyd-destunau hynny. Ac mae’r
traddodiad hwn yn parhau: hyd yn oed heddiw, mae’r staff a gyflogir
yn ddiwyd eu hymdrech, ac yn cael eu cydnabod fel arweinyddion yn eu
hamrywiol feysydd gan bobl mewn pob math o gylchoedd, boed
academaidd neu ddiwylliannol.
Oherwydd hyn oll, yr ydym yn ymbil arnoch, fel Is-Ganghellor, ac ar
yr un pryd yn ymbil ar Gyngor Prifysgol Bangor, i roi heibio’r
syniad hwn o gau yr Adrannau sydd dan fygythiad, ac yn arbennig yr
Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Cydnabyddwn ei bod yn
bosibl fod angen addasu a chyflwyno newidiadau o fewn yr Adran, ond
y mae cau, i ni, yn ymddangos yn gam mor derfynol fel na allwn
beidio â chredu y daw dydd pan y bydd yn edifar gan y Brifysgol fod
wedi gwneud hynny.
Er yn ysgrifennu atoch fel unigolion, credwn fod ein barn yn
cynrychioli barn llu mawr o bobl o fewn a thu allan i eglwysi Cymru,
ac oherwydd hynny, erfyniwn arnoch i roi heibio’r bwriad hwn.
Yn ddiffuant,
Parchg Ifan Roberts,
Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd
Cymru
Parchg Peter Thomas,
Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru
Parchg Ddr Geraint Tudur,
Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg”