www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 321 Ionawr 2010

 

Cymorth Cristnogol yn lansio deiseb: diddymu dyled Haiti

Mae Cymorth Cristnogol wedi lansio deiseb heddiw er mwyn annog Canghellor y Trysorlys i geisio sicrhau fod dyled ryngwladol Haiti o $890 miliwn yn cael ei dileu ar unwaith.

Mae'r elusen yn galw ar Alistair Darling i ddylanwadu ar y Gronfa Ariannol Ryngwladol a chredydwyr eraill Haiti.

Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd i ddangos eu pryder dros Haiti drwy arwyddo'r ddeiseb ar y we: www.christianaid.org.uk.

‘Rydym yn gobeithio cael ymateb anferth fydd yn symbol o ddyhead llethol pobl y DU i weld ein llywodraeth yn helpu Haiti yn ystod yr argyfwng hwn,' meddai Paul Brannen, Pennaeth Eiriolaeth a Dylanwad Cymorth Cristnogol.

‘Gyda hyd at 200,000 o bobl wedi marw a chyrff a bywydau pobl ddi-ri wedi eu chwalu gan y dinistr dychrynllyd fydd yn cymryd blynyddoedd i'w adfer, sut all y benthycwyr yma barhau i fynnu cael eu harian yn ôl?’ 

Ychwanegodd Mr Brannen: ‘Gwyddom fod pobl y DU yn poeni'n arw am yr erchylltra a'r dinistr sydd wedi amlyncu Haiti, gan eu bod wedi cyfrannu mor hael i apêl y DEC ar gyfer y wlad.

‘Mae'r ddeiseb hon yn gyfle pellach i'r cyhoedd gefnogi pobl Haiti, drwy ychwanegu eu lleisiau i'r alwad am ddileu dyled anferthol y wlad nawr.

‘Mae'r ddeiseb hefyd yn galw ar i Mr Darling sicrhau fod yr holl arian a gaiff ei roi i Haiti yn y dyfodol, ar gyfer lliniaru'r argyfwng a datblygu, ar ffurf grantiau ac nid benthyciadau.

‘Hyd yn oed cyn i'r wlad gael ei dinistrio gan ddaeargryn yr wythnos ddiwethaf, hon oedd y wlad dlotaf yn Hemisffer y Gorllewin.’

Bydd Cymorth Cristnogol yn cyflwyno'r ddeiseb i'r Canghellor cyn diwedd y mis.

Mae'r DU eisoes wedi canslo ei benthyciadau dwyochrog i Haiti - yn haf 2009 - ond nawr mae ganddi gyfle i helpu i waredu gweddill dyled y wlad.

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 21/01/2010