Mae Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol newydd
ddychwelyd o Haiti. Bu yno gyda chriw ffilmio ‘Y
BYD AR BEDWAR’ i dystio i ymdrech ddyngarol
Cymorth Cristnogol yno.
Cafodd
Branwen gyfle i ymweld a rhai o bartneriaid Cymorth
Cristnogol, a siarad gyda theuluoedd sydd wedi cael
cymorth brys ers y ddaeargryn ysgytwol. Bydd y
rhaglen i’w gweld ar S4C nos Lun nesaf, Chwefror 1af
am 9.30pm.
Dyma’r unig dîm o Gymry sydd wedi mynd i Haiti i
adrodd yn ôl ar y drychineb.
Os
gwelwch
yn dda, a wnewch chi dynnu sylw at y rhaglen yn
eich eglwysi dros y Sul?
Cofiwch, gallwch gyfrannu ar lein yn
www.cymorthcristnogol.org.uk neu ffonio un o swyddfeydd lleol
Cymorth Cristnogol:
Caerdydd 029 2084 4646; Bangor 01248 353574 neu Caerfyrddin
01267 237257.