www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 315 Chwefror 2010

 

I blae mae fy arian yn mynd?

Dyna'r cwestiwn y mae taflen newydd a gynhyrchwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ceisio ei ateb.

Mae 'Hyn i gyd...a chymaint mwy' yn tynnu sylw at waith rhai o weinidogion a gweithwyr EBC, gwaith sydd yn bosibl diolch i gyfraniadau hael aelodau'r Eglwys.

Ymysg y bobl sy'n ymddangos ar y daflen mae'r Parchedig Edwin O Hughes o Lanbrynmair, sy'n weinidogion ar ofalaethau fawr wledig, a'r Parchedig Duncan Ballantyne, sy'n rhannu ei amser rhwng gofalaeth draddodiadol a bod yn gaplan Maes Awyr Caerdydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd y daflen yma yn atgoffa ein haelodau fod eu cyfraniadau hael yn mynd tuag at cefnogi gwaith Cristnogol hanfodol bwysig ym mhob rhan o Gymru," meddai'r Parchedig Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Bydd copïau o'r daflen yn cael eu hanfon i bob eglwys. Gallwch lawrlwytho copi drwy glicio yma (PDF, 2.9MB).

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 15/02/2010