www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Newyddion 322 Chwefror 2010

 

Crempogau a chanu yng Nghasnewydd

Marilyn Priday, Gweithwraig Ryng-ffydd Eglwys Tŷ'r Gymuned, Casnewydd, sy'n sôn am ddigwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr eglwys.

"Ar ddydd Mawrth Ynyd yn Nhŷ'r Gymuned cawsom ddigwyddiad lle bu pawb yn rhannu crempogau a chanu.

"Daeth torf dda at ei gilydd i fwyta llwyth o grempogau - wedi eu taenu gyda thriog y fasaren, siwgr a lemwn. Ac yna, canu i gyfeiliant Laura gyda drymiau, tamborîn ac ati. Roedd yn hyfryd gweld y fath amrywiaeth, a chymaint o bobl o wahanol ffydd a diwylliannau yn mwynhau cwmni ei gilydd ac yn canu gyda'i gilydd."

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/02/2010