 |
|
Hawlfraint: Vision For Children |
Mae tri chyflwyniad PowerPoint ar fywyd Paul newydd
eu haddasu i’r Gymraeg. Maent ar gael ar
www.visionforchildren.com
(cliciwch ar y Ddraig Goch ar waelod y dudalen).
Mae 11 cyflwyniad PowerPoint Beiblaidd ar gael
erbyn hyn yn Gymraeg. Heb gynnwys y tri
chyflwyniad ar Paul mae pob un o’r lleill wedi
eu lawr lwytho dros 300 o weithiau!
Cofiwch hefyd fod cyfres o wersi Beiblaidd a
thaflenni gwaith i bedwar ystod oedran o 5
mlwydd oed i 13+ ar gael yn rhad ac am ddim o
www.amserbeibl.org.
Beth arall sydd ar gael?
Ar
www.beibl.net
mae mwy o gyflwyniadau Powerpoint newydd. Mae
Dawn Wilks, mam ifanc o
Lansannan, Sir Ddinbych wedi cydweithio â
Gobaith i Gymru er mwyn creu lluniau gwreiddiol
i ddarlunio nifer o storïau Beiblaidd. Mae’r
gwaith newydd ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf
PowerPoint yn rhad ac am ddim.

Dawn wrth ei
gwaith
Gyda’r Pasg yn agosáu
mae ysgolion cynradd ac ysgolion Sul yn chwilio
amadnoddau newydd, cyfoes a safonol i’w
defnyddio yn eu gwasanaethau ac mae un ogyfresi
Dawn yn olrhain hanes y Pasg. Mae yna sgriptiau
pwrpasol i gydfynd â gwaith Dawn, yn ogystal â
llu o adnoddau eraill.