Yma gallwch lawr lwytho adnoddau fydd o gymorth i chi gynllunio a chynnal Sul Croeso’n Ôl.
Mae Sul Croeso’n Ôl yn un o’r mentrau newydd unigol mwyaf yn y byd ar gyfer eglwysi lleol sydd am estyn gwahoddiad i eraill. Mae wedi ei sylfaenu ar y cam symlaf a mwyaf uniongyrchol a geir wrth efengylu – ein bod yn gwahodd person yr ydym eisoes yn ei adnabod i ddod i’r eglwys. Bydd y Sul Croeso’n Ôl nesaf ar Fedi 30, 2012.
Mae gwybodaeth ac adnoddau pellach ar wefan swyddogol Sul Croeso’n Ôl. Mae deunydd ac adnoddau Saesneg ar gyfer croesawu plant i'r eglwys i'w cael ar wefan The Lost Sheep.