Cyfleon
Henaduriaeth Morgannwg Llundain
Mae eglwysi Cymraeg Cwm Tawe yn chwilio am berson/bersonau i hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol yn y gymuned leol. Rhagwelir y bydd y gwaith yn ymwneud a sefydlu perthynas â gwahanol fudiadau o fewn y gymdeithas ac yn benodol â ieuenctid a theuluoedd, Chwiliwn am syniadau, brwdfrydedd a chyffro.
Mae arian mewn llaw ar gyfer 3 blynedd, oriau a chyflog i’w trafod. Bydd cyflogi yn ddibynnol ar ddatgeliad Swyddfa Cofnodion Troseddol Uwch boddhaol a dau eirda.
Manylion oddi wrth ysgrifennydd yr Henaduriaeth, y Parchedig Dafydd Andrew Jones (02920 554075 neu dandrewjones1@hotmail.com). Dyddiad Cau: Mai 28, 2012.
Gweithiwr Ieuenctid Cristnogol, Penrhyn Gŵyr
Cyflog £18-£20K y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad; pensiwn yn ychwanegol
Mae swydd ecwmenaidd newydd wedi cael ei chreu er mwyn datblygu Gweinidogaeth Ieuenctid yn ardal Gŵyr, de-orllewin Abertawe. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phobl ifanc Penrhyn Gŵyr gan eu cynorthwyo i ddatblygu eu ffydd a'u perthynas â Duw, a bydd yn cynnwys gwaith mewn ysgolion a chydag eglwysi lleol. Mae'r swydd wedi cael ei chreu gan Gower Christian Youth mewn cydweithrediad â Scripture Union.
Gofyniad Galwedigaethol Gwirioneddol: Mae Rhan 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i'r swydd hon Fel sy’n ofynnol dan y yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mewn perthynas â chrefydd. Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn Gristion o argyhoeddiad sy'n byw yn ôl ethos a dysgeidiaeth y ffydd er mwyn gallu dysgu'r ffydd Gristnogol gydag arddeliad a gonestrwydd.
37.5 awr yr wythnos yw'r swydd hon a bydd gofyn gweithio fin nos ac ar benwythnos yn achlysurol.
I gael Amlinelliad Swydd, Manyleb Person a Ffurflan gais, cysylltwch ag Alison Holland (alison@stmadoc.co.uk / 01792 386291)
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2012
Cyfweliadau: canol Mai 2012
Mae Gower Christian Youth Work yn elusen gofrestredig: 1140598
Y Weinidogaeth
Am wybodaeth ynglŷn â bod yn weinidog gyda ni, ewch i'r dudalen Hyfforddiant neu cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Hyfforddiant.
