"Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd." (I Ioan 3:18)
"Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono’i hun." (I Corinthiaid 13:4)
"Dylai'ch agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu." (Philipiaid 2:5)
"Ymddiried yn llwyr yn yr Arglwydd, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun." (Diarhebion 3:5)
"Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi." (Mathew 11:28)
"Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe’i dywedaf eto, llawenhewch." (Philipiaid 4:4)
"A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni." (Genesis 1:3)
"Dywedodd wrthyn nhw, "Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy’r byd i gyd." (Marc 16:15)
"Syr, dyn ni eisiau gweld Iesu." (Ioan 12:21)
"Mae’r golau yn dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. " (Ioan 1:5)
Adeiladwyd capel Gwynfil yn 1760 ar gyfer cymuned o Fethodistiaid Calfinaidd a sefydlwyd yn 1735. Mae gan yr eglwys gysylltiadau cryf iawn â Daniel Rowland (1713-90), curad Llangeitho ac un o sefydlwyr Methodistiaeth Gymraeg. Cafodd y capel ei ailadeiladu neu ei wella yn 1764, 1813 a 1861-3. Y tu allan i'r capel mae cerflun marmor o Rowland.
Heddiw, cynhelir oedfa wythnosol am 10yb neu 5yh ar ddydd Sul.