Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn creu cysylltiadau gyda phobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru a thu hwnt, gan ddangos cariad Duw a’i le ym mywydau pobl.
Mae ein heglwysi lleol yn ganolog i’n cenhadaeth. Maent yn gweithio o fewn eu cymunedau, yn estyn allan mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r Eglwys yn ganolog yn eu cynorthwyo trwy ddarparu hyfforddiant a gweithwyr penodol.
Mae’r Eglwys yn rhannu ei neges mewn ffyrdd eraill hefyd.

Mae Eciwmeniaeth yn ymwneud â gwahanol ganghennau yr Eglwys Gristnogol yn gweithio ynghyd tuag at undod llawnach. Mae llawer o’n heglwysi yn gweithio gydag eglwysi o enwadau eraill, ac mae nifer cynyddol yn dod yn rhan o ofalaethau cydenwadol. ‘Rydym hefyd yn cefnogi prosiectau eciwmenaidd mewn gwahanol rannau o Gymru ac yn rhan o weithgarwch Pabell yr Eglwysi mewn digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Amaethyddol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd.
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gweithio gyda Christnogion o sawl traddodiad Cristnogol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r Byd. ‘Rydym yn aelod o’r partneriaethau eciwmenaidd canlynol: