
Mae’r Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn ymrwymo i ddysgu, yn gywir a chreadigol, ein plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a’n teuluoedd, beth yw cynnwys a pherthnasedd y Beibl. Anogir hwy i gymhwyso’r ddysgeidiaeth i’w bywyd personol. ‘Rydym yn eu hannog i ystyried eu perthynas gyda’r Iesu ac i ddarganfod y doniau a roddwyd iddynt gan Dduw. Gofynnwn iddynt hefyd i feddwl pa ran sydd ganddynt hwy i’w chwarae yn yr eglwys leol.
Gobeithiwn fagu a hyfforddi arweinwyr newydd i’r Gymru gyfoes!
Mae ein Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid am gefnogi y rhai sy’n arwain plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd ar lawr gwlad drwy wrando, annog a chalonogi, hyfforddi, paratoi a chynghori ar adnoddau addas i’w gwaith
Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol i sefydlu a chynnal Clybiau Plant Cristnogol a chynnig cyngor i athrawon Ysgolion Sul.

Gallwn gynorthwyo’r eglwys i sefydlu a chynnal Clybiau Ieuenctid Cristnogol.
Mae’r gwaith ymhlith yr oedolion hŷn yn ceisio casglu ynghyd, hyfforddi ac anfon unigolion i wasanaethu yn y Gymru gyfoes. Gwneir hyn drwy Souled Out.

Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol yn ei gwaith ymhlith teuluoedd eu bro.
Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol i sefydlu perthynas gyda’r ysgol leol.

Mae Canolfan y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn cynnal cyrsiau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Cynigir cyfle i ddau berson ifanc dreulio blwyddyn yng Ngholeg y Bala.

‘Rydym yn paratoi ac yn cynnig cyngor ar adnoddau addas.
Cynigir hyfforddiant ar amrywiol bynciau priodol yn ymwneud â gwaith plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd.
‘Rydym yn cynnig cyngor ar gyflogi gweithwyr plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd yn lleol.