Mae cynrychiolwyr o Eglwys Bresbyteraidd Mizo wedi mynegi diolch am y swm o £30,000 y mae plant a phobl ifanc ein heglwysi wedi’i godi tuag at gartref Plant Amddifad Hmangaihna In.
Gweithiodd yr eglwysi’n ddyfal rhwng Ionawr a Medi 2011 i godi’r arian er mwyn gwella’r adnoddau yn Hmangaihna In, sydd yng ngofal Pwyllgor Merched Synod Eglwys Bresbyteraidd Mizoram.
“Mae hwn yn fynegiant o gariad mam at ei phlant, ac mae’r ffaith ein bod wedi’i dderbyn gan ein mam eglwys yn ei wneud yn rhywbeth teimladwy iawn o’n rhan ni" meddai’r Parch Lalzuithanga, Ysgrifennydd Gweithredol y Merched. Ychwanegodd bod yr Eglwys yn Mizoram wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf trwy gydol cyfnod yr apêl gan Mrs C Lalrintluangi, gwraig y Parch Dr H Sangkhuma sydd yn alluogydd cenhadol yn ne-orllewin Cymru.
“Roedd Mrs C Lalrintluangi yn rhoi gwybod i ni yn rheolaidd pa mor galed yr oedd y gwasanaeth plant ac ieuenctid, yr eglwysi lleol, yr ysgolion Sul a’r eglwysi ifanc yn gweithio i godi’r swm enfawr hwn” meddai. “Does dim modd inni allu mynegi mewn geiriau pa mor ddiolchgar ydym ni, ond hoffem drosglwyddo’r diolchgarwch hwn iddynt. Rydym nawr yn y broses o ail-ddatblygu ac ymestyn yr adeilad er mwyn gallu cynnig lloches i fwy o blant amddifad; a darparu gwell is-adeiledd – dodrefn ac adnoddau, gan gynnwys gemau a deunydd chwaraeon. Trwy’r weithred hon o gariad o Gymru, caiff y plant amddifad hyn ddarganfod gobaith, trugaredd a dyfodol. Byddant yn derbyn gwell llety, diogelwch ac addysg a fydd yn eu helpu i sylweddoli cymaint y mae Duw yn eu caru hwy fel bodau dynol."
Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...