Roedd dydd Sul 5 Chwefror yn Sul arbennig yng nghapel Y Crwys, Caerdydd, oherwydd dyna pryd y cafodd Apêl Guatemala 2012 ei lansio.
Plant hŷn yr Ysgol Sul oedd yn gyfrifol am wasanaeth y bore, a chawsom amser bywiog yn eu cwmni, a chyfle i edrych ar sleidiau a gwrando ar gerddoriaeth o Guatemala. Y merimba yw eu hofferyn cenedlaethol, ac roedd y gynulleidfa’n symud i sŵn y beat naturiol sy’n perthyn i gerddoriaeth America Ladin! Yn y cyntedd roedd arddangosfa o luniau a phosteri, ac ar ddiwedd y gwasanaeth gwnaethpwyd casgliad er mwyn rhoi cychwyn i’r Apêl. Wedyn cawsom fwynhau te a bisgedi wedi eu paratoi gan rieni’r Ysgol Sul.
Yn oedfa’r hwyr daeth Trefnydd yr Apêl yn Henaduriaeth Morgannwg-Llundain, sef Mr Glyn Williams, atom i roi cefndir yr apêl a rhai cyfarwyddiadau ymarferol. Roedd ei sgwrs yn gryno ac yn glir, a chafwyd eitemau addas gan gôr Y Crwys.
Yr un oedd neges y Gweinidog yn y bore a Mr Williams yn yr hwyr, sef ei bod yn amser torchi llewys yn awr a chasglu arian i gynorthwyo pobl a phlant Guatemala. Bydd popeth a wnawn yn gwneud gwahaniaeth.
Y nod ar ein cyfer ni yn Y Crwys am y flwyddyn yw tua £3,800, ac fe wnawn ein gorau i gyrraedd y nod, a mynd heibio iddo gobeithio wrth i wahanol gymdeithasau’r eglwys gydio yn yr apêl.
Parchg Glyn Tudwal Jones
Yn y lluniau mae'r ieuenctid a gymerodd ran a'r Parchedig Glyn Tudwal Jones, Gweinidog, gyda Mr Glyn Williams.
Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...