Cynhelir cyfres o seminarau baratoi eglwysi ar gyfer cynnal Sul Croeso'n Ôl ym mis Mawrth.
Mae arolwg gan Sul Croeso'n Ôl yn dangos nad yw 85-88% o’r rhai a wahoddwyd ar Sul Croeso'n Ôl yn dod yn fynychwyr rheolaidd o’r eglwys.
Mae seminar Troi Ymwelwyr yn Aelodau yn cynnig syniadau syml ac effeithiol i dyfu niferodd mynychwyr rheolaidd. Mae'r siaradwr, Michael Harvey, yn un o sylfaenwyr Sul Croeso'n Ôl ac mae wedi teithio ledled y byd yn rhoi hyfforddi eglwysi i estyn croeso.
Os ydych yn awyddus i fynychu un o'r seminarau ar 8-9 Mawrth, a fyddech cystal â rhoi gwybod i'r Parchg John S Bennett: 01239 615466 | jsbkbennett@btinternet.com.
Mae croeso i bawb, felly beth am drefnu mynd â llond car o'ch eglwys?
Cynhelir y seminarau gan Esgobaethau Bangor, Llanelwy a Thyddewi ac mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ddiolchgar iawn i'r tair am estyn gwahoddiad i aelodau o'n heglwysi ymuno â nhw.
Related Link(Cymraeg):